Proffiliau Darparwyr Hyfforddiant Bwyd Môr trwy’r Rhwydwaith yng Nghymru

I gefnogi cyflogwyr a busnesau sydd yn dymuno cyflogi, hyfforddi a darparu cymhwysterau i’w hunain a’u cyflogai, mae gan y Rhwydwaith nifer o aelodau sy’n darparu gwasanaethau ac adnoddau i wneud hyn.

    Mae darparwyr o fewn y Rhwydwaith yn medru darparu hyfforddiant, prentisiaethau ynghyd a chydlynu adnoddau a lleoliadau i gynnal yr hyfforddiant. Tra fod amryw o ddarparwyr yng Nghymru, ceir yma broffiliau yr rheiny sydd wedi ymaelodi a’r Rhwydwaith ac sydd yn cymeryd rhan flaenllaw o’i mewn.

    Cambrian Training - Wedi’w lleoli yn y Trallwng, mae Cambrian Training yn cefnogi prentisiaethau ym maes Pysgod a Physgod Cregyn mewn Lefel 2 a 3 ar draws Cymru.

    Mae gan Seafish nifer o ddarparwyr annibynnol sydd wedi’w lleoli yng Nghymru ac yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddiant.

    Yn ychwannegol mae’r canolfanau technoleg bwyd yn Llangefni Ac Horeb sy’n medru cynnig cyrsiau cochi mewn cydweithrediad a hyfforddwr SeaFish o Grimsby, ac ‘AFOS Micro Kiln’ ar fenthyg gan Seafish.

    Coleg Cambria - Mae’r coleg yn cefnogi prentisiaethau ffrio pysgod yng Ngogledd Cymru.